Fel sydd i’w weld ar waelod y wefan hon, caiff Gardd Gobaith ei “Hariannu gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a’i darparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar y cyd â Llywodraeth Cymru”.
Yr hyn rydyn ni’n ei wneud yw creu’r lle lleol hwnnw gyda defnyddiau cymharol rad, a’r lle hwnnw’n gysgodfan gynfas gydag uned storio ar gyfer meinciau. Mae’n ystafell ddosbarth awyr agored, yn weithdy ac yn lloches gymdeithasol pan fydd yn bwrw glaw i’r rhandirwyr. Ac mae’r dibenion hyn i gyd yn canolbwyntio ar ddysgu am fywyd gwyllt.

Gweithdy llesiant awyr agored yn cael ei redeg gan BlueGreenCymru
Mae’r ysgol yn rhedeg gweithdai sy’n cyd-fynd â’r Prosiect ID Natur Tir Porfa, a gobeithio y bydd yn defnyddio’r lle yn rheolaidd. Buont hefyd yn helpu dylunio’r lle gyda gweithdy dylunio y llynedd, a byddant yn rhedeg yr Her IntMintMint hefyd gyda’r gwelyau hex.

Plant Ysgol Cilgerran yn gwrando ar Yusef Samari yn y gweithdy ID bywyd gwyllt yng Ngardd Gobaith.

Gwelyau Hex Mint Mint
Hoffwn redeg gweithdy gardd goedwig yn ddiweddarach yn y flwyddyn, i godi arian i dalu am gostau rhedeg Garden Wild Plants CIC.
Rydyn ni’n ffodus iawn i gael Phil Blackwood o BlueGreenCymru i adeiladu’r gysgodfan gynfas; maen nhw’n rhedeg nifer o weithdai llesiant awyr agored hefyd, felly maen nhw mewn sefyllfa dda i wydbod beth sydd eisiau yn y lle.
Y bwriad yw cael cynllun dan yr adran toolkit, fel y gall y gysodfan gynfas rad a’r uned storio pren gael eu hadeiladu’n hawdd gan grwpiau cymunedol eraill.
Dyma lun o’r PDF ar gyfer y gysgodfan gynfas (mae’r gwaith yn dal i fynd ymlaen!)

PDF o’r gysgodfan gynfas ar safle Gardd Gobaith
A dyma lun o’r CAD rwyf wedi ei greu ar gyfer yr uned storio wedi’i gwneud o ddarnau o bren, polion a sitenni toi Corroline

Syml ond defnyddiol
Rwy’n teimlo’n drist, oherwydd roedd y man storio i fod yn adeiledd pren crwn hardd gyda tho gwyrdd wedi’i wneud gan y turniwr coed dawnus David Hunter. Ond roedd yn rhy ddrud o ran amser ac arian, felly rwyf wedi gofyn iddo wneud rhywbeth llawer mwy cyffredin.