Mae safle Gardd Gobaith ymhen isaf cae rhostir cleiog yn Sir Benfro. Fel y gallwch ddychmygu, mae yna lawer o ddŵr, i gyd yn llifo drwy’r ardd!
Pan gafodd y llwybr newydd ei osod, defnyddiwyd y pridd wyneb i greu’r clawdd pridd yng nghefn yr ardd. Mae hwn yn nodwedd hardd, sy’n creu atalfa ar unwaith lle gellir plannu rhywogaethau sy’n llai abl i wrthsefyll dŵr. Fodd bynnag, roedd hefyd yn atal y dŵr rhag llifo drwy’r ardd, fel y gwelwch yn y llun drôn uchod! Fel y dywedodd cyfaill imi sy’n dylunio tirweddau, y cwestiwn cyntaf wrth ddylunio tirwedd yw “I ble mae’r dŵr yn mynd?”
Felly, mae’n bwysig tu hwnt i Gary, y gyrrwr cloddio eithriadol o ddefnyddiol, ychwanegu ffosydd French. Mae wedi gosod un draen o bostyn yr iet bob cam ar hyd ymyl y llwybr at y clawdd, a draen arall yn rhedeg ar hyd y clawdd pridd cefn lle’r oedd y dŵr. Mae hefyd wedi ailosod ffos wrth y clawdd.
Fel y gwelwch o’r llun, mae’r dŵr yn crynhoi oherwydd bod angen cysylltu’r ffos wrth ffos arall ar ymyl y ffordd. Ond mae’n welliant mawr am y tro, a phan fydd y llwybrau uchel wedi eu hadeiladu a’r ardd wedi ei phlannu i gyd, bydd llawer llai o ddŵr wyneb.