Fel nifer o bobl yng Nghymru, mae gen i nifer o brosiectau ar y gweill yr un pryd! Un o’r pethau gwych ynglŷn â gweithio ar Ardd Gobaith yw’r cyfle sydd wedi bod i weithio gyda phobl ddawnus ac angerddol. Ac mae llawer iawn o syniadau a phrosiectau hefyd wedi cyfnewid rhwng gwahanol asiantaethau a sefydliadau.
Fy mhrif waith arall yw bod yn Gynorthwyydd Bioamrywiaeth i Bartneriaeth Natur Ceredigion yng Nghyngor Ceredigion. Cefais y dasg o sefydlu’r grŵp glaswelltir Glaswelltir Ceredigion, ac rwyf wedi gwneud hynny gyda llawer iawn o gefnogaeth gan grwpiau glaswelltir eraill ac elusennau amgylcheddol.
Ar ôl y gweithdy ID bywyd gwyllt gyda’r dawnus Yusef Samari o Ganolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru (WWBIC), meddyliais y gallem ddefnyddio’r un syniadau ar gyfer Glaswelltir Ceredigion. Gallem greu partneriaeth rhwng perchnogion glaswelltir o fewn cyrraedd i’r ysgol, er mwyn cofnodi arsylwadau bywyd gwyllt yn rheolaidd.
Mae’r cais hwn wedi golygu gweithio gyda rhai partneriaid rhyfeddol, gan gynnwys Plantlife Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, The Buzz Club a WWBIC. A chywais ddoe fod y cais wedi llwyddo, gan arwain at fwy fyth o syniadau ar gyfer prosiectau mwy cysylltiol a rhwydweithiol eto.
I mi, mae hyn yn hanes cadarnhaol iawn am y ffordd y gall buddiannau o un prosiect gysylltu ag eraill.