Rydyn ni wedi prynu dau fraced Ffotograffiaeth Man Sefydlog ar gyfer Gardd Gobaith gan gwmni o’r enw Landmark. Mae’r bracedi’n weddol ddrud ond wedi eu gwneud yn dda, a byddant yn ein galluogi i ddogfennu cynnydd Gardd Gobaith.
Mae’r olygfa orau o bostyn yr iet yn rhandiroedd Pen y Foidr gerllaw. Ydy, mae braidd yn ansefydlog, a bydd rhaid ichi roi rhywbeth dan y braced i’w wneud yn wastad!
Mae’r man gweld arall ar y postyn derw hardd sydd wedi ei greu gan fy hen gymydog a chrefftwr, Kingsley Hudson. Ond wn i ddim pa mor ddefnyddiol fydd hwn, a hwyrach y byddaf yn symud y braced i roi golygfa fwy cynhwysol.