Cyfryngau cymdeithasol:

Prosiect gobaith ID natur

post thumb
Newyddion
by Jake Rayson/ on 27 Oct 2024

Prosiect gobaith ID natur

Ar y cyd â Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru, rydym wedi Mynegi Diddordeb mewn cael cyfarpar adnabod bywyd gwyllt a hyfforddiant ar gyfer Ysgol Cilgerran oddi wrth Gronfa Hinsawdd Transition Bro Gwaun.

Mae’n brosiect gwych sy’n darparu cyfarpar a hyfforddiant i blant a staff yn yr ysgol i allu adnabod natur. Maen nhw’n dysgu am blanhigion, creaduriaid di-asgwrn-cefn, adar, mamaliaid, ffyngau - beth maen nhw’n ei fwyya a ble maen nhw’n byw. Mae’r Ganolfan yn cael sylwadau rheolaidd a Gardd Gobaith yn cael ei defnyddio’n rheolaidd fel ystafell ddosbarth yn yr awyr agored. Sy’n golygu hefyd ei bod yn cael ei chynnal. Mae’r cyfarpar yn costio tua £300 a’r chwe gweithdy’n costio tua £700. Cawn wybod fis Mawrth nesaf a fyddwn wedi llwyddo. Yn y cyfamser, rwy’n rhannu manylion y cais gyda grwpiau a mentrau natur eraill, oherwydd mae gan Dŵr Cymru Raglen Cefnogi Gwyddoniaeth y Bobl, gyda grantiau hyd at £10,000.