Cyfryngau cymdeithasol:

Her mintys gyda Mintopia

post thumb
Newyddion
by Jake Rayson/ on 26 Oct 2024

Her mintys gyda Mintopia

Bydd Ysgol Cilgerran, drwy Gardd Gobaith, yn cymryd rhan yn yr is Her IntMintMint sy’n cael ei rhedeg gan y Dr Si Poole. Ei phrif waith hi yw Athro Cymdeithiol Addysg Diwylliant ym Mhrifysgol Caer, ac mae ganddi gasgliad cenedlaethol o Fintys yn Swydd Caer.

Ar gyfer ysgolion mae’r her IntMintMint. Bydd pob plentyn sy’n cymryd rhan yn cael math penodol o fintys, a rhaid iddo fe/hi feithrin a lluosi’r mintys. Yr her yw masnachu’r planhigyn gydag ysgolion eraill, a pho fwyaf fyddwch chi’n eu masnachu, mwya’n y byd o bwyntiau a bathodynnau fyddwch chi’n eu crynhoi.

Mae Mintys yn fath rhyfeddol o blanhigyn o ryw ddwsin neu fwy o rywogaethau a channoedd o gyltifarau. Maen nhw’n hawdd eu lluosi ac maen nhw’n hoffi pridd cyfoethog, llaith, sy’n golygu eu bod yn ddelfrydol i’w tyfu mewn ysgolion. Mae arnynt arogl hyfryd hefyd, sy’n gyfarwydd ac yn flodeuog, ac felly maen nhw’n fwy deniadol fyth i blant ysgol a pheillwyr.

Llaw yn dal gwreiddiau mintys allan o botyn 9cm

Mae mintys yn hawdd ei luosogi. Dyma Fintys y Meirch o’r hen dyddiau

Rydyn ni wedi prynu amrywiaeth helaeth o fintys ffrwythau ar gyfer ein gwaith gydag Ysgol Cilgerran, a mintys te ar gyfer y Gwely Te yng Ngardd Gobaith, i gyd o siop ar-lein Si’s Mintopia. Dyma restr lawn:

Mathau o fintys

  • After Eight
  • Banana
  • Berries & Cream
  • Blackcurrant
  • Chocolate
  • Crispy
  • Eau De Cologne
  • Eucalyptus
  • Hilary’s Sweet Lemon
  • Himalayan
  • Lidya
  • Logees
  • Mexican
  • Pineapple
  • Silver
  • Swiss Ricola
  • Turkish Cream
  • Wine
  • II Buddleia
  • II Corsican
  • II Japanese
  • II Lemon
  • III Lime
  • IIII Black Peppermint