Parhaodd y gweithdai Gardd Gobaith am ddim gydag ymweliad â thyddyn Hanner Erw Stephanie Hafferty ger Llanbedr Pont Stefan. Yno dangosodd i’r gynulleidfa niferus amrywiaeth o lysiau bythol a rhai blynyddol yn ei gardd chokka.
Mae Steph yn llefarydd adnabyddus dros arddio heb balu, ac mae ganddi hefyd gasgliad gwych o lysiau bythol. Y pwynt allweddol am dyfu llysiau yw nad mater o hyn neu’r llall yw hi: mae’n hollol rhesymol tyfu llysiau blynyddol ynghyd â’r rhai bythol. Ac mae nifer fawr o lysiau y gellir ymestyn eu tymor er mwyn iddynt bara’n hirach.
Dyma rai enghreifftiau: torri croes ar y goes pan fyddwch yn cynaeafu bresych i annog bresych neu ddail newydd i dyfu, a thorri cennyn uwchlaw’r pridd er mwyn iddynt ailegino. Neu gallwch adael iddynt hadu i greu bylbynnau a fydd yn plygu drosodd ac yn aildyfu.
Un o’i ffefrynnau bythol yw rhiwbob, ac yn y llun mae Timperley’s Early yn tyfu ar wely hugelkultur heb ei balu. Twmpath o dyweirch, canghennau a brigau yw’r rhain, nid wedi eu claddu mewn rhych ond yn bentwr ar ben pridd moel. Mae’n dda cael darnau cynnar, canol a diweddar o riwbod er mwyn ymestyn y tymor cynaeafu.
Heibio’r berllan roedd rhai mathau o gêl, ac un ffefryn oedd Taunton Deane. Gall hwnnw efallai am 5 mlynedd ac mae’n fwy caled na Daubenton’s Kale. Mae’n hawdd gwneud toriadau o ddail yn egino, ac mae’n dda cael rhai wrth gefn i barhau’r cyflenwad dros y blynyddoedd. Cêl bythol dibynadwy arall yw Asturian Cabbage (gallwch brynu hadau odd wrth Real Seeds yn Sir Benfro), er bod blas digon sur ar hwn.
Yacon (math o lygad y dydd). Mae cloron creisiog i hwn. Nid yw’n hoffi rhew, felly taenwch gompost drosto yn y gaeaf. Gallwch fwyta’r cloron fel maen nhw neu wedi eu coginio, yn braf mewn salad gaeaf.
Yr hyn oedd yn drawiadol oedd y pwyslais ar fywyd gwyllt drwy gydol y daith a’r gweithdy. Meddai Stephanie ar y cychwyn:
Rwy’n teimlo’n frwd dros ysglyfaethwyr, ac rwy’n plannu pethau ar gyfer gwenyn meirch.
Mae Dail Duon Bach yn un o’r plahigion hynny sy’n cynnal nifer fawr o greaduriaid di-asgwrn-cefn. Dyna’n union yw diben Gardd Gobaith, sef cefnogi bywyd gwyllt ac ecosystem gytbwys mewn man cynhyrchiol sy’n cael ei ddefnyddio gan bobl. Yr hyn sy’n arbennig o hyfryd yw nad yw Dail Duon Bach yn blanhigion crand o gwbl. Ond pan fyddwch yn gwybod pa rywogaethau maent yn eu cynnal, bydd eich barn yn newid a byddwch yn wir yn dechrau gwerthfawrogi eu harddwch a’u lle yn yr ecosystem.
Ac roedd lle ym mhobman i amrywiaeth eang o gynefinoedd a phanhigion. Yn y llun mae’r Lle i Ffyngau, wedi ei grynhoi’n ofalus gan feicolegydd dan goeden rhododendron yn yr ardd! Roedd yno nifer o wahanol fathau o ffwng a phren yn pydru, yn fyw o greaduriaid.|