Hwyrach am mai ychydig o westeion oedd yn y gweithdy yn Neuadd y Pentref, Cilgerran roedd yn gynhyrchiol iawn. Gwnaed llawer o waith, gan esbonio’r syniadau y tu ôl i’r man cymunedol mewn gardd goedwig bywyd gwyllt, sef yr Ardd Gobaith.
Mae’r sleidiau ar gael fwy neu lai am byth yma hopegarden.uk/slides/intro
Roedd y gweithdy mewn 4 rhan.
1. Y syniadau
Mae hi’n argyfwng ar natur a’r hinsawdd, ac mae angen i ddyn fyw mewn cydbwysedd gyda natur, a ninnau’n rhan o hynny. Sut gwnawn ni hynny? Sut gallwn ni oleuo’r llwybr at gydbwysedd? Pa newidiadau sy’n rhaid eu cael yn y ffordd rydyn ni’n gwneud penderfyniadau? Yn wreiddiol bwriadwyd i’r Ardd Gobaith fod yn ardd sioe yn RHA Hampton Court, digwyddiad-o-fewn- digwyddiad. Penderfynwyd y gellid cael profiad a gwersi gwerthfawr o ardd wirioneddol, fyw a fyddai o fudd i fywyd gwyllt a phobl go iawn.
2. Beth yw gardd goedwig?
Y diffiniad symlaf yw tyfu cnydau bwyd mewn gardd bywyd gwyllt. Yn ei hanfod, eco-system fwytadwy, gardd heb lawer o ymdrech sy’n cadw cydbwysedd o’i mewn rhwng y maetholion angenrheidiol a rheoli pla. Planhigion bythol sydd ynddi gan mwyaf mewn gwahanol haenau a gorchudd pridd parhaol.
3. Beth sy’n gwneud gardd bywyd gwyllt?
I fi, planhigion brodorol lle mae’n bosibl a chynefin wedi’i drefnu ar gyfer bywyd gwyllt. Y rheswm dros dyfu planhigion brodorol yw bod y rhain wedi esblygu ar y cyd â bywyd gwyllt ac yn fwyd i greaduriaid diasgwrn-cefn a sylfaen i ecosystemau.
4. Pam Cynulliadau Cymunedol?
Mae llawer o bobl yn dweud bod diffyg democratiaeth yn y wlad hon. Gwneir penderfyniadau gyda thuedd at buddiannau economaidd sefydledig yn hytrach na chyda chyfranogiad y dinesydd. Beth pe bae penderfyniadau economaidd yn ddemocrataidd? Beth pe bae democratiaeth uniongyrchol yn rhan sylfaenol o’n diwylliant? A fyddai hynny’n newid ein hagwedd at yr argyfwng natur a’r hinsawdd?
Ar lefel leol, mae Cynulliadau Cymunedol yn fframwaith cynhwysol ac agored i wneud penderfyniadau am bynciau penodol. Maent yn seiliedig ar 3 colofn:
- Cynhwysedd radical
- Gwrando’n astud
- Ymddiried yn y broses
Os bydd galw, hwyrach yn trefnaf weithdy byw ar -lein. Anfonwch e-bost ataf hello@hopegarden.uk os oes diddordeb!
ID Bywyd Gwyllt
Yn y prynhawn symudwyd o neuadd y pentref i safle’r Ardd Gobaith, lle cynhaliodd Yusef Samari o WWBIC weithdy ID bywyd gwyllt. Yn amlwg iawn roedd lindys y Gwalchwyfyn Helyglys wrth ymyl yr Helyglys Pedrongl a’r holl bryfed o gwmpas clystyrau o flodau Cedowydd a Ragwt y Gors.
Roedd hi’n ffordd hyfryd o dreulio’r prynhawn, yn addysgol a hefyd yn ymlaciol, gan roi sylw manwl i’r hyn allai fod ynghudd dan ein traed.
Roedd yr ymchwil a drosglwyddodd Yusef am y bywyd gwyllt oedd wedi ei weld yn yr ardal hefyd yn ddifyr iawn. Roedd wedi cwblhau arolwg ecolegol o’r safle (gallwch lawrlwytho copi o’r PDF o’r tudalen Plant Species. Yna cyflwynodd wybodaeth am yr hyn a welwyd o fewn 1 cilometr i’r ardd. 2,282 o rywogaethau a 256 o’r rheiny’n cael eu gwarchod a/neu’n cael blaenoriaeth.
Bydd hyn yn wir yn helpu proses ddylunio’r ardd, oherwydd pan wyddoch enw’r rhywogaeth rydych yn dylunio ar ei gyfer, gallwch ddewis y planhigion maen nhw’n eu bwyta a’r cynefin angenrheidiol. Amser cyffrous.