Cyfryngau cymdeithasol:

Roedd y plant yn eithriadol yn eu maes

post thumb
Education
by Jake Rayson/ on 13 Sep 2024

Roedd y plant yn eithriadol yn eu maes

Mae’r Ardd Gobaith yn ffodus iawn i gael arian gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar gyfer rhai gweithdai gydag Ysgol Cilgerran. Yr un cyntaf oedd Nodi Bywyd Gwyllt, gyda’r ecolegydd Yusef Samari o WWBIC, y ganolfan cofnodi bywyd gwyllt yng Ngorllewin Cymru.

Hwn oedd ein gweithdy cyntaf. Wn i ddim am fy nghydweithwraig, y dylunydd tirwedd adnabyddus Marianne Jones, ond roeddwn i’n nerfus iawn! Beth pe bae Yusef heb drefnu gweithgareddau ar gyfer y plant? Beth pe baen nhw’n diflasu? Beth pe baen nhw am fynd nôl i’r ysgol? Yng ngeiriau AA Milne:

“Supposing a tree fell down, Pooh, when we were underneath it?”
“Supposing it didn’t,” said Pooh after careful thought.
Piglet was comforted by this.

Y plant o gwmpas yr ecolegydd brwd yng nghanol y deiliach gwyrdd

Plant o Ysgol Cilgerran yn edrych ar bryfyn ar lestr yn nwylo’r ecolegydd Yusef Samari

Ychydig funudau’n ddiweddarach roedd y plant yn rhedeg o gwmpas y cae gyda rhwydi a jariau archwilio, yn ôl ac ymlaen, rhai’n gwichian yn llawen yn haul hyfryd y prynhawn dydd Gwener. Roedd yn agored iawn, dim nod pendant heblaw edrych ar yr hyn sydd o’n cwmpas a dod i wybod amdano. Am eiliad roedd hyn yn tarfu ar fy rhestr o beth i’w gwneud, ond yn raddol ymlaciais gan grwydro o gwmpas yn helpu chwilio am y Chwilen Crwban Cedowydd.

Chwilen werdd ar ddeilen werdd

Fersiwn werdd or Chwilen Crwban Cedowydd (Cassida murraea)

A chawsom un! Ar ddarn o Gedowydd yr ochr draw i’r rhandiroedd.

Daeth y plant o hyd hefyd i gorryn Four-spot Orb-weaver, yr un trymaf ym Mhrydain.

Corryn mawr a’i ben i lawr yn y borfa

Y Corryn Four-spot Orb-weaver (Araneus quadratus) yn cael cinio

Sêr y diwrnod oedd casgliad o lindys Gwalchwyfyn yr Helyglys, rhai anferth, prydferth gyda llygaid ffug i godi ofn ar ysglyfaethwyr. Roedden nhw’n tindroi wrth ymyl Helyglys Pedrongl, sy’n blanhigyn bwyd.

Lindysyn mawr iawn gyda llygaid ffug ar Geiliog ac Iâr

Lindysyn y Gwalchwyfyn Helyglys (Deilephila elpenor)

Roedd y plant yn wir wedi mwynhau eu hunain. Gofynnwyd i fi ddwywaith wrth gerdded yn ôl a allem fynd i edrych am fywyd gwyllt y dydd Gwener dilynol hefyd!

Y newyddion gwych yw ein bod ni, (yr Ardd Gobaith, WWBIC ac Ysgol Cilgerran) ar y cyd yn gwneud cais am offer ID bywyd gwyllt (lensys, rhwydi, ac ati) er mwyn i’r ysgol allu mynd ar deithiau rheolaidd a chyfrannu dros gyfnod hir at y ganolfan cofnodion.

Diolch yn fawr iawn i chi Ysgol Cilgerran, gan edrych ymlaen at y genhedlaeth nesaf o ecolegwyr.