Cynulliad cymunedol yng nghalon gardd goedwig bywyd gwyllt 💚
Darllenwch y cylchlythyr ar-lein
Newyddion • Dolenni • Lluniau • Gobaith
Croeso i bumed rhifyn cylchlythyr Gardd Gobaith. Rwy’ newydd ddechrau gweithio mewn swydd newydd ran-amser fel Cynorthwy-ydd Bioamrywiaeth yng Nghyngor Sir Ceredigion, felly mae amser hyd yn oed yn fwy gwerthfawr nag erioed o’r blaen. Byddaf yn ceisio dal ati i gyhoeddi cylchlythyr wythnosol.
Cofrestrwch i gael y cylchlythyr yma hopegarden.uk/newsletter. Os hoffech chi gyfrannu ato neu awgrymu rhywbeth i’w gynnwys ynddo, anfonwch e-bost ataf yn hello@hopegarden.uk
Jake Rayson
1. Newyddion
Cais i gael arian grant
Mae’n rhaid cyflwyno’r cais i gael Grant Cyfalaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur erbyn dydd Mawrth nesaf. Mae’r cloc yn tician. Grant i greu Gardd Gobaith “prototeip” yng Nghilgerran, Sir Benfro, yw hwn.
Mae i’r prosiect gymaint o botensial. Er enghraifft, rwy’ newydd ddod i wybod am gofnodwr bywyd gwyllt profiadol iawn a fyddai’n hoffi cynorthwyo â’r gweithdai adnabod bywyd gwyllt, gan gynnwys gyda’r ysgol gynradd leol. A rhywun sydd am dyfu planhigfa helyg fach ymhellach i lawr y cae (i greu cerfluniau mor brydferth â’r un a welir yn y llun).
Chwarae
Yng nghanol yr holl waith llenwi ffurflenni, tapio bysellfwrdd a sgriblan cylchlythyr, mae’n bwysig iawn cadw chwarae mewn cof, yn ogystal â’r rheswm dros wneud hyn yn y lle cyntaf. O ddifrif, mae’n rhaid iddo fod yn hwyl. A does dim byd yn crisialu hyn yn well na’r fideo hyfryd hwn o feleod a welais ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae gen i gof plentyn o fod i lawr wrth y llyn lleol yn gwylio gwenoliaid yn chwarae gyda phluen; bydden nhw’n ei gollwng hi o uchder mawr, yn gadael iddi gwympo, yna’n plymio i lawr i’w dal drwch blewyn o wyneb y dŵr.
Ydy hi’n bosib creu maes chwarae bywyd gwyllt ar gyfer amrywiaeth eang o wahanol anifeiliaid? Mae cacwn yn chwarae pêl-droed ond beth am lyffantod?
Caergewyll
Rwy’n wedi bod yn gweithio gydag ysgol gynradd leol i greu gardd goedwig bywyd gwyllt. Fel rhan o’r gwaith, ry’n ni’n defnyddio caergewyll fel “unedau cynefinoedd bywyd gwyllt”, term a fathwyd gan y garddwr John Little. Rwy’ wedi rhoi’r term ar waith yn llythrennol drwy greu gofodau bach yn y caergewyll gyda gatiau sy’n agor.
Mae caergewyll yn wych, oherwydd gallwch chi eu cynnwys nhw yn seilwaith yr ardd. O ran Gardd Gobaith, ry’n ni’n ystyried gosod gwelyau uchel am resymau hygyrchedd a draenio (mae’r safle ar glai trwm). Gallwch chi ddefnyddio caergewyll i adeiladu gwelyau uchel, ac mae hyn yn darparu cynefinoedd ychwanegol.
Lagŵn pryfed hofran
Un o’r cynefinoedd rwy’n awyddus i’w greu yw lagŵn pryfed hofran. Mae rhai rhywogaethau o bryfed hofran yn dodwy eu hwyau mewn dŵr llawn malurion, ac mae’r larfâu sy’n deor yn edrych fel cynrhon cynffon llygoden fawr. Pryfed hofran yw’r infertebratau pertaf erioed, fwy na thebyg, ac maen nhw’n beillwyr penigamp hefyd.
Mae gan ardd gwyddoniaeth dinasyddion Buzzclub brosiect lagŵn pryfed hofran. Fel arfer, maen nhw’n cael eu creu o boteli llaeth plastig, ond rwy’n credu y dylen ni osgoi plastig lle bo modd.
Felly, rwy’n arbrofi gyda gwydrau cwrw ail-law, gan osod rhwyll denau drostyn nhw i atal yr wyau rhag golchi i ffwrdd mewn glaw trwm (er y bydden nhw wedi’u cysgodi yn y gaergawell beth bynnag). Dyma’r hyn rwy’ wedi llwyddo i’w wneud hyd yma.
Sefyll yn farw
Mae coed sy’n sefyll yn farw yn gynefin bywyd gwyllt arall sy’n ffasiynol ar hyn o bryd. Hen goeden farw, yn dal i sefyll yn y tir, sy’n dod yn gartref i nifer fawr o chwilod, moch coed, ffwng a mwy. Ceir ffaith apocryffaidd (y math gorau) fod coeden farw yn cynnal mwy o fywyd na choeden fyw.
2. Dolenni
- Y tirweddwr ecolegol, Rebecca McMackin, yw un o’m harwyr ym maes garddio, ac mae ei chylchlythyr lled-fisol yn ddifyr iawn ac yn werth tanysgrifio iddo.
- Dyma hi yn sgwrsio â Thomas Christopher, arwr arall ym maes garddio bywyd gwyllt.
- Mae gan The Biological Recording Company weminar arall, a’r tro hwn mae’n trafod prosiect Gwyddoniaeth Dinasyddion Buzz Club! Dydd Iau 16 Mai.
Dyfyniad gan Rebecca McMackin sy’n arbennig o berthnasol i’r Cynulliad Cymunedol a’r bwriad o gyd-lunio Gardd Gobaith:
mae creu gerddi yn rhan o brofiad bywyd… y ffordd orau o wneud hyn yw drwy weithio gyda chymunedau er mwyn i’r gerddi hynny allu bod yn rhan o’r amgylchedd
3. Lluniau
4. Gobaith
Ar ôl ennill rheolaeth uniongyrchol dros y tir, roedd modd i’r werin gynnal perthynas â byd natur lle roedd y naill yn gofalu am y llall: roedden nhw’n rheoli tir pori a thir comin ar y cyd, drwy gynulliadau democrataidd, gan ddilyn rheolau gofalus o ran trin y tir, pori’r tir a defnyddio’r goedwig.
~ Jason Hickel, tud. 44 Less is More
Rwy’ newydd ddechrau darllen y llyfr hwn, gan fod sawl ffrind wedi ei argymell. Mae’n gyflwyniad hawdd iawn ei ddeall sy’n egluro pam fod ein systemau economaidd yn gweithredu mewn ffordd sy’n dinistrio ecoleg. Mae hefyd yn llawn gobaith, i’r graddau ei fod yn galw am ymgysylltu a newid.
Dolenni Gobaith
- Gwefan Gardd Gobaith hopegarden.uk
- Cynlluniau ffynhonnell agored ar wefan Gardd Gobaith hopegarden.uk/plans
- Archifau cylchlythyron yma buttondown.email/hopegarden ac yma hopegarden.uk/categories/newsletter/
- Cyfryngau cymdeithasol. Dilynwch ni!
- Mastodon climatejustice.social/@hopegarden
- Facebook facebook.com/hopegardenuk
- TikTok tiktok.com/@hopegardenuk
- YouTube youtube.com/HopeGardenUK
- Pinterest pinterest.co.uk/hopegardenuk
- Instagram instagram.com/hopegardenfuture
- Ko-fi ko-fi.com/hopegarden
- Twitter twitter.com/hopegardenuk