Cynulliad cymunedol yng nghalon gardd goedwig bywyd gwyllt 💚
Darllenwch y cylchlythyr ar-lein
Newyddion • Dolenni • Lluniau • Gobaith
Croeso i bedwerydd rhifyn cylchlythyr wythnosol Gardd Gobaith. Pythefnos sydd i fynd tan ddyddiad cau’r cais i gael arian grant. Ry’n ni’n creu cysylltiadau ag ymarferwyr garddio a chymunedol amrywiol, ac mae braslun o’r gweithdai ry’n ni’n bwriadu eu cynnal yn dechrau siapio.
Os oes gennych chi gwestiynau am Gynulliadau Cymunedol, gerddi coedwig neu arddio bywyd gwyllt, anfonwch e-bost ataf yn hello@hopegarden.uk
Jake Rayson
1. Newyddion
Cais i gael arian grant
Pythefnos sydd i fynd tan y dyddiad cau i gyflwyno ein cais i gael arian grant. Mae llawer o waith adolygu, ailysgrifennu ac ailystyried i’w wneud, ac mae’r cyfan yn cymryd cryn amser.
Mae’r syniad sydd wrth wraidd Gardd Gobaith yn un syml: darparu man cyfarfod sy’n ysbrydoli ar gyfer democratiaeth leol mewn gardd â phlanhigion bwytadwy lluosflwydd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, man lle gall gweithredu cadarnhaol ddigwydd a chael ei drafod, a syniad y gellir ei ailadrodd ledled y wlad.
Ond mae’n galw am lawer o eiriau, llawer o gyllidebau, amcanestyniadau, ystyriaethau. Erbyn cylchlythyr yr wythnos nesaf, bydd y cyllidebau wedi’u cwblhau, a bydd y drafft terfynol yn barod i’w chwynnu am y tro olaf!
Nodweddion bywyd gwyllt
Fe gefais gyfarfod hyfryd gyda Marianne Jones, cadwraethwr a dylunydd tirweddau sy’n cefnogi Gardd Gobaith. Buon ni’n trafod amrywiaeth eang o bynciau sy’n gysylltiedig â chysyniad Gardd Gobaith.
Dydw i ddim wedi cael unrhyw hyfforddiant ecolegol ffurfiol, felly bydd Marianne yn cyfrannu profiad ac arbenigedd y mae mawr eu hangen o ran agweddau ecolegol Gardd Gobaith. Fe ofynnais i’r cwestiwn damcaniaethol “Faint o fywyd gwyllt amrywiol allwch chi ei gael mewn gardd fach?” ac rwy’ wedi llunio rhestr o’r nodweddion bywyd gwyllt posib ar fy ngwefan.
Mae blodau gwyllt yn ffasiynol
Rwy’ wedi ymuno â nifer o restrau e-bost ym maes garddio, ac fe ddaliodd yr un hwn gan meithrinfa Hayloft fy sylw. “🌸 Ymunwch â’r Chwyldro Blodau Gwyllt! 🌸” medd pennawd yr e-bost! Ydyn, mae blodau gwyllt yn ffasiynol. Nawr, mae hyn yn beth da. Ond, cofiwch brynu eich blodau gwyllt o’ch meithrinfa blodau gwyllt leol os gallwch chi. Er enghraifft, yma yn y Gorllewin, gallwch chi fynd i The Wildflower Nursery yn Hwlffordd a Celtic Wild Flowers ar gyrion Abertawe. Rwy’n hoff o Hayloft hefyd, ond rwy’n awyddus i gefnogi busnesau lleol, a hynny cyn i’r cwmnïau mawr ddechrau gwerthu eu blodau gwyllt ffug eu hunain a fydd wedi’u tyfu mewn mawn a hinsawdd artiffisial, eu haddasu’n enetig a’u boddi â gwrtaith.
Ry’n ni ar y teledu!
Rwy’ wastad wedi bod eisiau dweud hynny. Ond dyw e ddim yn hollol wir. Yr hyn sydd wedi digwydd yw bod Vicky o WoodlandsTV wedi gofyn a fydden ni’n hoffi cael ffilm sy’n hyrwyddo Gardd Gobaith a’i gwerthoedd, gan greu ffilm ‘cyn’ dechrau ar y gwaith i amlinellu ein nodau a’n diffiniadau, a ffilm ‘ar ôl’ creu’r ardd pan fydd popeth yn blodeuo.
Fe gytunais i.
Bydd e’n wych 💚
2. Dolenni
- The public are ready for citizens assemblies – civil servants should embrace this — waw, mae’r Gwasanaeth Sifil yn dweud hyn “Bydd democratiaeth gydgynghorol yn caniatáu i ni ddefnyddio cyd-ddeallusrwydd miliynau o ddinasyddion, nid dim ond dibynnu ar lond dwrn o wleidyddion a gweision sifil” am Gynulliadau Dinasyddion. Mae Cynulliadau Cymunedol yn broses debyg, ar raddfa leol lawer llai. Ewch i’n tudalen diffiniadau
- Six Inches of Soil — ffilm am haen denau iawn a phwysig ar blaned fawr iawn. Gofynnwch i’ch sinema leol ei dangos.
- How to transform school meals? Beans is how! — mae addysg mor bwysig mewn pob math o ffyrdd. Mae’r cogydd James Taylor yn mynd ati i wella deiet plant cynradd drwy brosiect sydd ar waith mewn dwy ysgol yn Llundain. Mae hon yn dasg hir, anodd a hanfodol.
3. Lluniau
4. Gobaith
Mae trefnwyr ein prosiect yn credu bod treftadaeth yn anniriaethol hefyd. Felly, ry’n ni’n bwriadu meithrin sgiliau penderfynu cryfach yn ein cymuned drwy gyflwyno cysyniadau ac arferion democratiaeth gydgynghorol, fel sy’n digwydd gyda’r cynulliadau cymunedol sy’n cael eu cynnal ledled y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. Mae dinasyddiaeth yn cefnogi cydnerthedd treftadaeth naturiol, adeiledig a chymunedol. Heb y sgiliau cydgynghorol cynhwysol hynny, nid yw canlyniadau diriaethol yn gynaliadwy.
~ Denise, rhan o’n cais i gael arian grant
Rwy’ wrth fy modd â’r hyn mae Denise wedi’i ysgrifennu fan hyn am bwysigrwydd dinasyddiaeth o ran diogelu ein treftadaeth.
Dolenni Gobaith
- Gwefan Gardd Gobaith hopegarden.uk
- Cynlluniau ffynhonnell agored ar wefan Gardd Gobaith hopegarden.uk/plans
- Archifau cylchlythyron yma buttondown.email/hopegarden ac yma hopegarden.uk/categories/newsletter/
- Cyfryngau cymdeithasol. Dilynwch ni!
- Mastodon climatejustice.social/@hopegarden
- Facebook facebook.com/hopegardenuk
- TikTok tiktok.com/@hopegardenuk
- YouTube youtube.com/HopeGardenUK
- Pinterest pinterest.co.uk/hopegardenuk
- Instagram instagram.com/hopegardenfuture
- Ko-fi ko-fi.com/hopegarden
- Twitter twitter.com/hopegardenuk