Cyfryngau cymdeithasol:

Cylchlythyr Gardd Gobaith — Dydd Mawrth 20 Chwfror 🌧️

post thumb
Cylchlythyr
by Jake Rayson/ on 20 Feb 2024

Cylchlythyr Gardd Gobaith — Dydd Mawrth 20 Chwfror 🌧️

Cynulliad cymunedol yng nghalon gardd goedwig bywyd gwyllt 💚

  1. Newyddion
  2. Dolenni
  3. Lluniau
  4. Gobaith

Croeso i drydydd rhifyn cylchlythyr wythnosol Gardd Gobaith. Mae’n bwrw glaw eto yn y Gorllewin. Ond dyw hyn ddim wedi ein diflasu ni, ac ry’n ni’n edrych ymlaen at gyflwyno ein cais i gael arian grant yn ystod yr wythnosau nesaf.

Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau, sylwadau neu syniadau, mae croeso i chi anfon e-bost ataf yn hello@hopegarden.uk

Jake Rayson

1. Newyddion

Cyllideb ein cais am grant

Mae’n rhaid i ni baratoi’r gyllideb ar gyfer ein cais i gael arian grant, felly ry’n ni’n ymdrin â’r glo mân erbyn hyn. Mae’n briodol, neu yn hytrach, mae’n hanfodol bod y gwaith o ddylunio ac o greu Gardd Gobaith enghreifftiol yn dilyn prosesau Cynulliadau Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu y bydd yr ardd (os cawn ni’r arian grant) yn cael ei chyd-lunio a’i chyd-greu gan y bobl a fydd yn ei defnyddio.

Felly, mae mantra’r rhifyn diwethaf gweithdai, gweithdai, gweithdai yn ymddangos yn y gyllideb, a bydd cyllidebau ar gael ar gyfer llu o weithdai a fydd yn cael eu cynnal gan Gynulliad Cymunedol, gan gynnwys, ymhlith eraill:

  1. Arolwg ecolegol — yr arolwg sylfaenol, cyn dechrau ar unrhyw waith, ac yna cyfarwyddiadau ar gyfer yr arolygon a gynhelir ar ôl hynny, i fesur yr effaith ar fywyd gwyllt
  2. Cyd-lunio — tri gweithdy, o bosib, gyda gwesteion arbennig yn cyfrannu atyn nhw, o safbwynt bywyd gwyllt, o safbwynt cymunedol ymarferol, ac o safbwynt llesiant awyr agored
  3. Tirweddu — tirweddu caled, sut bydd strwythur yr ardd yn cael ei greu; plannu a thocio at y tymor hir; creu meinciau pren

Ry’n ni hefyd yn mynd ati i gysylltu â mwy o elusennau a sefydliadau lleol i weld a oes ganddyn nhw ddiddordeb, a byddai’n braf cael tysteb hwyliog hefyd.

Jake Rayson

Ffynnone Resilience

Rwy’ wedi ysgrifennu postiad ar gyfer blog Ffynnone Resilience ynglŷn â Gardd Gobaith a Chynulliadau Cymunedol, a dylai ymddangos ar ei dudalen newyddion yn fuan iawn.

Jake Rayson

Diffiniadau Gardd Gobaith

Mae hi bob amser yn ddefnyddiol gwybod am beth ry’ch chi’n sôn, felly rwy’ wedi creu tudalen diffiniadau ar gyfer Gardd Gobaith. Y syniad yw cael brawddeg gryno fachog, ac yna ychydig mwy o fanylion.

  1. Cynulliad Cymunedol — Mae Cynulliad Cymunedol yn ffordd effeithiol a grymus o gynnwys democratiaeth gyfranogol go iawn yn y broses benderfynu leol drwy broses strwythuredig, gan ddod â chymunedau sy’n rhannu’r un diddordeb ynghyd mewn proses benderfynu gynhwysol.
  2. Gardd goedwig — Mae gardd goedwig yn gweithio gyda natur i dyfu cnydau bwytadwy. Mae’n gynaliadwy, yn hawdd ei chynnal a’i chadw, ac yn gyfeillgar i fywyd gwyllt, ac mae’n efelychu ymyl coetir drwy ddefnyddio planhigion lluosflwydd bwytadwy a phlanhigion sy’n gorchuddio’r ddaear. Yn ei hanfod, mae’n ecosystem fwytadwy.
  3. Gardd bywyd gwyllt — Gallai pob gardd fod yn ardd bywyd gwyllt drwy sicrhau bod ynddi ddwy elfen bwysig, sef cynefin a bwyd.

Mae hon yn dasg sy’n mynd rhagddi ac a fydd, fwy na thebyg, yn parhau i fynd rhagddi ac i ddatblygu o hyd.

Jake Rayson

2. Dolenni

3. Lluniau

Llun arwydd gardd ar hen iet gardd

Gardd Drefol Gellon Trujillo yn Ponce, Puerto Rico. Fe gwrddon ni drwy’r cyfryngau cymdeithasol!

I gael mwy o wybodaeth, darllenwch y postiad blog.

Llwyn gwyrdd ag aeron

Y freuddwyden gynhenid anhygoel sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt

Postiad gwych ar Facebook gan Celtic Wild Flowers am blanhigyn anhygoel ar gyfer bywyd gwyllt. Rwy’n ei ddefnyddio’n helaeth mewn cloddiau cynhenid cymysg sy’n atal y gwynt.

4. Gobaith

Yr unig beth all achub y byd yw adfer ymwybyddiaeth o’r byd. Dyna beth mae barddoniaeth yn ei wneud.

~ Allan Ginsberg

Dolenni Gobaith