Cyfryngau cymdeithasol:

Blog

Workshops
Gweithdy plannu
by Jake Rayson/ on 23 Feb 2025

Gweithdy plannu

Dydy’r gwaith tirweddu yng Ngardd Gobaith ddim ar ben, felly ni fedrwn ei blannu eto. Yn ffodus mae rhandiroedd Pen y Foidr yn caniatau inni blannu eu mathau Cymreig o goed afalau, eirin, damson a gellyg ar hyd clawdd y gogledd yng nghefn Gardd Gobaith.

Musings
Tri Peth
by Jake Rayson/ on 18 Feb 2025

Tri Peth

Dyma’r tair egwyddor rwy’n hoffi eu defnyddio wrth feddwl am ddyluniad ac ecoleg gardd goedwig bywyd gwyllt.

Design
Esgyrn Gardd Gobaith
by Jake Rayson/ on 28 Jan 2025

Esgyrn Gardd Gobaith

Llwybrau yw esgyrn gardd. Maen nhw’n diffinio’r lle, yn ei agor ar gyfer ei archwilio, ac yn rhoi mynediad ar gyfer y gofal angenrheidiol i ofalu am y planhigion.

News
Llyfrgell Planhigion
by Jake Rayson/ on 23 Jan 2025

Llyfrgell Planhigion

Wrth i Ardd Gobaith ddatblygu, felly hefyd yr amcanion. Y prif nod yw “lle cymunedol wrth galon gardd goedwig bywyd gwyllt”. Ystyr hyn yn ymarferol hyd yn hyn yw bod tri chanlyniad:

Workshops
Gweithdy tocio i adfer
by Jake Rayson/ on 14 Jan 2025

Gweithdy tocio i adfer

O gofio’r tywydd, daeth tyrfa sylweddol ynghyd ar gyfer y gweithdy tocio ar ddydd Sadwrn oer. Mae Martin Hayes wedi bod yn dylunio, plannu a thocio perllannau ers blynyddoedd lawer, ac mae galw mawr am ei ddull difyr ac uniongyrchol.

Design
I ble mae’r dŵr yn mynd?
by Jake Rayson/ on 30 Dec 2024

I ble mae’r dŵr yn mynd?

Mae safle Gardd Gobaith ymhen isaf cae rhostir cleiog yn Sir Benfro. Fel y gallwch ddychmygu, mae yna lawer o ddŵr, i gyd yn llifo drwy’r ardd!

News
ID Natur Glaswelltir
by Jake Rayson/ on 21 Dec 2024

ID Natur Glaswelltir

Fel nifer o bobl yng Nghymru, mae gen i nifer o brosiectau ar y gweill yr un pryd! Un o’r pethau gwych ynglŷn â gweithio ar Ardd Gobaith yw’r cyfle sydd wedi bod i weithio gyda phobl ddawnus ac angerddol. Ac mae llawer iawn o syniadau a phrosiectau hefyd wedi cyfnewid rhwng gwahanol asiantaethau a sefydliadau.

News
Cyfarpar ID Bywyd Gwyllt i Ysgol Cilgerran
by Jake Rayson/ on 21 Dec 2024

Cyfarpar ID Bywyd Gwyllt i Ysgol Cilgerran

Rydyn ni wedi cael newyddion drwg a newyddion da.

Y newyddion drwg yw na lwyddodd ein cais am grant i Gronfa Hinsawdd Gymunedol Transition Bro Gwaun, oherwydd nad oeddem wedi darparu tystiolaeth am wella cynefin. Ond roedd adborth Tom yn wirioneddol werthfawr. Rwy’n cymryd rhan hefyd mewn grŵp arall o’r enw Glaswelltir Ceredigion Grassland, a chynhwysais yr adborth hwn mewn cais i Raglen Cefnogi Gwyddoniaeth y Bobl gan Dŵr Cymru gyda phrosiect wedi ei ysbrydoli gan Gardd Gobaith o’r enw ID Natur Glaswelltir.