Cyfryngau cymdeithasol:

Gweithdai

Gweithdai

Bydd y gyfres o weithdai a gynhelir gan Gardd Gobaith o fis Medi 2024 tan fis Mehefin 2025 yn taflu goleuni ar bob agwedd ar yr ardd, o’r bywyd gwyllt i’r planhigion bwytadwy, o ddylunio’r ardd i brosesau penderfynu cynhwysol. Bydd pob gweithdy yn cael ei arwain gan diwtoriaid profiadol o gefndiroedd amrywiol.

Mae’r gweithdai hyn ar gael am ddim yn sgil arian a ddarparwyd gan y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Mae’r cynllun yn cael ei roi ar waith gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

DyddiadTeitlLleoliadTiwtorDisgrifiad
Dydd Sadwrn 12 Hydref🥦 Llysiau lluosflwyddHalf Acre Homestead,
Llambed
Stephanie Hafferty10am-2pm
Cipolwg ar fyd bendigedig y llysiau lluosflwydd yng ngardd Steph. Hyd at 15. Cludiant ar gael.
Dydd Sadwrn 26 Hydref🧑‍🤝‍🧑 Cynulliad CymunedolNeuadd Bentref CilgerranOphelia Camp10am-1pm
Cyflwyniad i sut i gynnal Cynulliad Cymunedol, proses ddemocrataidd gynhwysol ac uniongyrchol
Dydd Sadwrn 11 Ionawr🍎 Tocio coed ffrwythauCanolfan Bywyd Gwyllt CymruMartin Hayes10am-2pm
Tocio gyda pherllannwr dawnus ar ddau safle
Dydd Sadwrn 22 Chwefror🌳 Plannu coedGardd GobaithMartin Hayes10am-3pm
Dysgu sut i blannu coed ffrwythau, gan osod offer i’w hamddiffyn a’u cynnal. Byddwn yn plannu Gardd Gobaith
Dydd Gwener 11-13 Ebrill🪑 Creu mainc o bren sydd newydd ei dorriCoppicewood College, EglwyswrwDavid Hunter a Tracey Styles10am-4pm
Tri diwrnod llawn yn creu mainc o bren sydd newydd ei dorri gyda thiwtoriaid profiadol iawn. Hyd at 6
Dydd Sadwrn 26 EbrillGweithdai awyr agoredGardd GobaithPhil Blackwood,
Blue Green Cymru
10am-2pm
Mae gan BlueGreenCymru flynyddoedd o brofiad o gynnal gweithdai awyr agored sy’n ymwneud â llesiant, a bydd Phil yn barod i rannu ei gyfoeth o wybodaeth
Dydd Sul 10 Mai🌰 FforioGardd EnfysSalena Walker10am-1pm
Bydd y fforiwr, y perylysieuydd a’r garddwr, Salena, yn mynd â chi am dro i fforio am fwyd, cyn cynnal sesiwn gwneud te
Wedi digwydd
Dydd Sadwrn 14 Medi🌻 Cyflwyniad i Gardd GobaithNeuadd Bentref CilgerranJake Rayson
Nature Works
10am-12pm
Cyflwyniad i’r syniadau a’r arferion sydd wrth wraidd Gardd Gobaith. Cinio i ddilyn.
Dydd Sadwrn 14 Medi🪲 Adnabod Bywyd GwylltGardd GobaithYusef Samari
WWBIC
2pm-4pm
Adnabod planhigion, ffyngau, creaduriaid di-asgwrn-cefn a chreaduriaid eraill. Addas i rai ar bob lefel. Hyd at 20
Dydd Sul 06 Hydref🌐 Dylunio gerddiNeuadd Bentref CilgerranJake Rayson
Nature Works
10am-3pm
Syniadau a thechnegau i drawsnewid eich gardd yn baradwys i fywyd gwyllt ac yn wledd fwytadwy

Gweithdai i ysgolion

Amser: 9.30-11.00am

DyddiadTeitlLleoliadTiwtorDisgrifiad
Dydd Gwener 13 Medi🪲 Adnabod Bywyd GwylltGardd GobaithYusef Samari10am-12pm
Sesiwn gyffredinol ar adnabod bywyd gwyllt, wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer ysgolion, gydag ecolegydd profiadol a brwdfrydig dros ben
Dydd Gwener 20 Medi🌐 Dylunio gerddiYsgolMarianne Jones a Jake Rayson10am-12pm



Gan ddefnyddio byrddau naws, lluniadau a modelau syml, bydd Marianne yn trin a thrafod gwahanol syniadau i gynllunio gardd bywyd gwyllt, gan gynnwys y plant yn y broses
Dydd Gwener 14 Chwefror🧑‍🤝‍🧑 Cynulliad CymunedolYsgolOphelia Camp10am-12pm
Gweithdy sy’n trin a thrafod prosesau penderfynu Cynulliad Cymunedol, wedi’i greu’n benodol ar gyfer plant gan hwylusydd ac addysgydd profiadol

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Mae’r cynllun yn cael ei roi ar waith gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.