Cyfryngau cymdeithasol:

Pecyn Cyfryngau Gardd Gobaith Cilgerran

1. Crynodeb

  • Enw: Gardd Gobaith Cilgerran
  • Arwyddair: Cynulliad cymunedol yng nghalon gardd goedwig bywyd gwyllt 💚
  • Brawddeg: Gweithdy a man cyfarfod cymunedol croesawgar yng nghalon gardd goedwig bywyd gwyllt sy’n cysylltu pobl leol â natur a’i gilydd 💚
  • Safle: Pen Y Foidr, Cilgerran, Sir Benfro SA43 2TH
  • Gwefan: hopegarden.uk

Disgrifiad byr

Ased cymunedol ar gyfer pobl Cilgerran a’r fro yw Gardd Gobaith. Ynddi, ceir ardal Cynulliad Cymunedol wedi’i gorchuddio i gynnal gweithdai a chyfarfodydd awyr agored. O’i hamgylch, ceir gardd a ddyluniwyd mewn ffordd ystyrlon, gyda chasgliad o lysiau lluosflwydd a llwyni bwytadwy, ynghyd â chyfoeth o flodau gwyllt cynhenid a ddewiswyd yn ofalus. Defnyddir planhigion cynhenid lle bo modd i roi bwyd i’r pryfed sydd wedi esblygu ochr yn ochr â nhw, ac mae cynefinoedd bywyd gwyllt ac arferion cynaliadwy yn rhan o seilwaith yr ardd.

2. Nodau

  1. Hyrwyddo planhigion cynhenid a chynefinoedd bywyd gwyllt ar gyfer gerddi
  2. Darparu enghreifftiau o blanhigion lluosflwydd bwytadwy ac arferion tyfu bwyd cynaliadwy
  3. Arddangos newidiadau syml i sicrhau bod gerddi yn fwy hygyrch i fywyd gwyllt ac i bobl
  4. Darparu pecyn cymorth trwyddedig y gall cymunedau ei ddefnyddio i greu Gerddi Gobaith
  5. Hyrwyddo Cynulliadau Cymunedol ar gyfer democratiaeth fwy uniongyrchol

3. Addunedau

  • Defnyddio planhigion di-fawn yn unig
  • Cynnwys planhigion cynhenid, a’r rheini wedi’u tyfu’n lleol lle bynnag y bo modd
  • Tyfu planhigion bwytadwy ar gyfer y gymuned
  • Cynnwys planhigion sy’n fwyd i lindys
  • Cynllunio’r ardd mewn ffordd sy’n gyfeillgar i bobl â dementia
  • Creu gardd hygyrch lle ceir mynediad i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn, dolenni sain, ac ati
  • Defnyddio eitemau plastig sydd ar gael eisoes (potiau ac ati) yn hytrach na phrynu rhai newydd
  • Creu gofod heb alcohol na hapchwarae i helpu unrhyw un sy’n gaeth i’r pethau hyn

4. Cyfryngau cymdeithasol

  • Rhithffurf: Llun agos o lygad y dydd Daisy cydnabyddiaeth Gzen92 ar Wikimedia Commons
  • Baner: Llun o’r awyr Safle Cilgerran o’r awyr
  • Disgrifiad: #CynulliadCymunedol wrth galon #GarddGoedwig #BywydGwyllt, #PecynCymorth ar gyfer yr #ArgyfwngNatur a’r #ArgyfwngHinsawdd 💚 🌳 ✊
  • Hashnodau: #CynulliadCymunedol #BywydGwyllt #GarddGoedwig #GarddioBywydGwyllt #garddio #ArgyfwngNatur #ArgyfwngHinsawdd

Postiadau

Fideos

Arall

5. Graffeg

Rhithffurf

Llun agos o lygad y dydd Cliciwch i gael llun eglur iawn. Cydnabyddiaeth: Gzen92 Wikimedia Commons

Baner

Llun safle corsiog o’r awyr Cliciwch i gael llun eglur iawn

Logo llygad y dydd

Logoteip

Logo llygad y dydd gyda llythrennu Gardd Gobaith