Cyfryngau cymdeithasol:

Gweithdy plannu

post thumb
Workshops
by Jake Rayson/ on 23 Feb 2025

Gweithdy plannu

Dydy’r gwaith tirweddu yng Ngardd Gobaith ddim ar ben, felly ni fedrwn ei blannu eto. Yn ffodus mae rhandiroedd Pen y Foidr yn caniatau inni blannu eu mathau Cymreig o goed afalau, eirin, damson a gellyg ar hyd clawdd y gogledd yng nghefn Gardd Gobaith.

Roedd y tywydd yn arswydus, gwynt cryf a glaw trwm iawn. O’r deuddeg o bobl a oedd wedi trefnu’n wreiddiol, dim ond Nina lwyddodd i ddod 💪. Byddem wedi gohirio, ond roedd y coed wedi bod mewn sachau ers dros wythnos ac roedd angen eu plannu. |

Screenshot of rainy weather map

Tywydd gwlyb iawn, gwyntog iawn

Rydyn ni felly wedi creu cyfres o fideos byr i grynhoi’r prif bwyntiau wrth blannu coed ffrwythau:

  1. Gwnewch dwll dim ond digon o faint i’r gwreiddiau. Does dim angen twll rhy fawr, na thwll sgwâr, ac yn sicr dim gwrtaith ynddo.
  2. Anelwch y prif wreiddyn i gyfeiriad y gwynt cryfaf. Mae hyn yn ysgogi tyfiant yn y gwraidd ac yn angori’r goeden gyfan.
  3. Does dim angen gosod pren cynnal wrth unrhyw goeden led-egniol neu egniol; dim ond rhai gyda chor-goed yn enw’u gwreiddgyff.

Daw’r coed i gyd oddi wrth Ian Sturrock, ac maent i gyd yn fathau Cymreig diddorol iawn. Maent i gyd ar wreiddgyff 4m o uchder a llydan (MM106 ar gyfer afalau, Colt ar gyfer ceirios, St Julien ar gyfer eirin, Quince A ar gyfer gellyg):

  1. Afal ’Gwell na mil’
  2. Afal ’Marged Nicolas’
  3. Afal ‘Morgan Sweet’
  4. Afal ‘Pig Aderyn’
  5. Afal ‘Pig y Golomen’
  6. Afal ‘Pren Glas’
  7. Ceirios ‘Cariad’
  8. Damson ’Abergwyngregyn’
  9. Gellygen ‘Brenhines yr Wyddfa’
  10. Gellygen ‘Penrhyn Castle’
  11. Eirinen ‘Denbigh’

Mae yna 15 coeden i gyd, ac fe af nôl i dynnu lluniau o’r holl labeli a chreu rhestr OpenStreetMap a’r data arni. Fe wnaf labeli metel hefyd, a fydd yn para mor hir â’r goeden. Bydd y labeli plastig yn dod i ffwrdd ar ôl ychydig flynyddoedd, a bydd cortyn yn torri i mewn i’r rhisgl wrth i’r goeden dyfu.

Curled metal embossed plant label

Gwnewch y labeli fel y byddwch yn troelli rhuban anrheg!

Mae’r rhain wedi eu gwneud gan ddefnyddio Dymo Rhino M1011 a brynais yn ail law yn weddol rad.

Roedd cardfwrdd gwarchod gyda’r coed, ond a dweud y gwir roedd y rhain yn dechrau dod yn ddarnau eisoes yn y glaw! Mae’n siwr na fyddan nhw’n para mwy nag ychydig wythnosau, felly bydd angen rhoi rhai plastig sy’n pydru yn eu lle. Mae angen pethau i warchod rhag niwed gan gwningod a chnofilod.

Distant figures planting trees by a hedge

Mae’r prennau yno i warchod y coed rhag cael eu torri i lawr

Gosodais ychydig bystion hefyd ryw droedfedd oddi wrth y goeden, oherwydd bydd tractor bach a pheiriant lladd gwair yn dod ar hyd y llwybr ym mis Awst, pan fydd y borfa’n uchel a’r coed wedi’u gorchuddio. Bydd y pren yn tynnu sylw’r gyrrwr!

Fideos

1. Gwneud y twll lleiaf

2. Anelu’r prif wreiddyn at y gwynt

3. Oi, Leeds, the smallest hole!

4. Pam mae coed yn cael eu tocio

5. Pryd i osod prennau cynnal

6. Gwarchod wrth dorri gwair

7. Rhywbeth i warchod y coed