Dyma’r tair egwyddor rwy’n hoffi eu defnyddio wrth feddwl am ddyluniad ac ecoleg gardd goedwig bywyd gwyllt.
3 egwyddor
- Cymhlethdod adeiladwaith
- Amrywiaeth mathau brodorol
- Effaith isel wrth fod yn gynhyrchiol
1. Adeiladwaith cymhleth
John Little, y garddwr bywyd gwyllt, biau’r ymadrodd hwn, sy’n ysbrydoliaeth enfawr. Y syniad yw eich bod, drwy greu adeiladwqaith cymheth mewn gardd neu dirwedd, yn creu mwy o gynefin. Gwyliwch y fideo hwn i weld rhagor:
Ystyr hyn yw cynhwyswch gynefin yn adeiladwaith eich gardd.
2. Mathau brodorol
Mae larfâu creaduriaid di-asgwrn-cefn lawer yn fwy tebygol o hoffi planhigion brodorol gan eu bod wedi esblygu gyda’i gilydd. Edrychwch ar y Gronfa Ddata o Bryfed a’u Planhigion Bwyd i weld rhestr o bethau sy’n rhyngweithio, e.e. rhyngweithio 97 Draenen Ddu vs rhyngweithio Masarnen Japan 1.

Amrywiaeth dda o blanhigion brodorol mewn cae yn Swydd Henffordd
Mae hyn yn golygu defnyddiwch blanhigion brodorol lle mae’n bosibl, yn drwch, e.e. i orchuddio’r tir neu mewn cloddiau.
3. Bod yn gynhyrchiol
Os nad oes llysyswyr mawr yn bresennol, mae angen i bobl wneud ymyriadau ar lefel isel. Cymerwch achos y weirglodd goediog, sy’n cynnwys cymhlethdod adeiladwaith a rheoli tir heb gael effaith fawr. Dyma rai o’r tirweddau mwyaf bioamrywiol yn y byd.

Gweirglodd goed yn Estonia eithriadol o amrywiol a chynhyrchiol
Mae hyn yn golygu y gall pobl fod yn llesol, a gall ymyrryd yn gytbwys fod yn fuddiol.