Cyfryngau cymdeithasol:

Llyfrgell Planhigion

post thumb
News
by Jake Rayson/ on 23 Jan 2025

Llyfrgell Planhigion

Wrth i Ardd Gobaith ddatblygu, felly hefyd yr amcanion. Y prif nod yw “lle cymunedol wrth galon gardd goedwig bywyd gwyllt”. Ystyr hyn yn ymarferol hyd yn hyn yw bod tri chanlyniad:

  1. Ystafell ddosbarth bywyd gwyllt yn yr awyr agored i’r ysgol leol.
  2. Llyfrgell blanhigion o blanhigion bythol i’w bwyta.
  3. Patrwm ar gyfer gerddi cymunedol eraill.

Archebais nifer o’r planhigion yn mis Tachwedd 2024 oddi wrth Martin Crawford yn Agroforestry Research Trust, gan fod planhigion gardd goedwig yn dueddol o werthu’n weddol gyflym. Tra rydyw i’n aros i’r gwaith tirweddu gael ei orffen, mae’r planhigion ar hyn o bryd yn byw yn fy ngardd gefn i (llun uchod)!

Book entitle Creating a Forest Garden on a wooden desk next a mac keyboard

Martin Crawford’s seminal book Creating a Forest Garden, with plenty propagation tables

Mae rhestr lawn o blanhigion i’w gweld yma hopegarden.uk/plants. Y syniad allweddol yw bod pobl, pan fydd y planhigion wedi ymsefydlu, yn gallu cynhyrchu planhigion newydd o’r casgliad o blanhigion bythol yng Ngardd Gobaith. Mae nifer o’r planhigion yn hawdd i’w hatgynhyrchu: toriadau o wreiddiau mintys, plannu gwreiddiau mefus, toriadau o goed cyrens, bylbiliau winwns, ac ati. Os hoffech wybod rhagor am atgynhyrchu, mae llyfr Martin Crawford Creating a Forest Garden yn cynnwys rhai tablau atgynhyrchu defnyddiol yn y cefn. Mae digon o adnoddau ar-lein hefyd, ac mae gan RHS amrywiaeth eang o erthyglau.

White flowered chamomile in a raised bed with white out of black labels. Tidy.

Clear, large labelling at the beautiful herb garden at National Trust Llanerchaeron

Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw labelu clir. Mae’r ardd berlysiau wych yn Llannerch Aeron yng Ngheredigion yn dangos hyn, gyda gwelyau uchel cymen, llwybrau graean hwylus a labeli mawr, clir ar y planhigion. Bydd gwelyau uchel yng Ngardd Gobaith (maent i’w gweld fel sgwariau glas golau wrth y brif fynedfa, a gwelyau wythonglog ar gyfer y mintys), yn bennaf am fod y pridd yn glai gwlyb, trwm a bydd gwelyau uchel yn darparu pridd sy’n sychu a hefyd yn ei gwneud yn haws labelu’r planhigion.

Screenshot of CAD garden drawing with drone photo background

Raised beds provide free draining soil and help organise unruly plants!

Un o’r problemau wrth ddylunio gardd yw nad ydych yn gwybod faint o blanhigion sydd eisiau nes ichi ddatrys mater y tirweddu. Gall gweithwyr proffesiynol profiadol wneud hyn bron â’u llygaid ar gau yn y man a’r lle, ond mae’n well gen i’r dull uniongyrchol, gan ddylunio gyda darnau o bren bambŵ a llinyn, yn mynd â hwn nôl at y bwrdd dylunio CAD. Yma gallwch weld y planhigion yn y darlun CAD yn aros i gael eu gosod yn eu lle!

Screenshot of plants in CAD, green circles of varying sizes on a dark background

CAD plants waiting to be deployed

Un datblygiad cyffrous iawn yw bod Gardd Gobaith ac Ysgol Cilgerran yn cymryd rhan yn yr Her Mintys Mintys, ac rydym wedi prynu dros 24 o wahanol fathau. Prosiect yw hwn sy’n cael ei redeg gan Dr Simon Poole, sydd â chasgliad cenedlaethol o fintys. Bydd y myfyrwyr yn cael un math o fintys ac yna’n gofalu amdano a’i atgynhyrchu a’i rannu gydag ysgol arall. A bathodynnau’n wobrau!

Screenshot of CAD garden design with heptagonal raised beds

3 specially designed heptagonal raised beds, with dividers to separate mints

Atgynhyrchu

Toriadau

Gall y rhain fod o bren meddal (wedi eu torri’n gynnar yn y tymor tyfu) neu’n bren caled. Rwy’n gweld bod cyrens, (Cyrens Duon, Cyrens Coch, Jostaberry) ac Aronias yn hawdd iawn i’w hatgynhyrchu o doriadau; mae Elaeagnus yn llai hawdd. Mae pren helyg a chwyros hyd yn oed yn haws gan eu bod yn hoffi tywydd tamp.

Rhannu

Mae rhannu planhigyn, fel rheol pan fydd yn cysgu, yn gweithio’n dda i fathau fel hosta, mintys a rhiwbob.

Claddu blaenau

Mae Mwyar Duon yn arbennig o hawdd i’w hatgynhyrchu drwy gladdu’r blaenau mewn pridd. Mae gennym 3 math yng Ngardd Gobaith, i gyd heb ddrain ac i gyd yn hawdd eu hatgynhyrchu drwy gladdu’r blaenau mewn potyn o gompost.

Gwreiddiau rhedeg

Mae planhigion mefus yn cynhyrchu gwreiddiau rhedeg, sef brigau a nodiwlau gwreiddio arnynt. Mae’r rhain eto yn hawdd eu gwthio i mewn i botyn o gompost.

Bylbiau a bylbiliau

Mae nifer o blanhigion allium (e.e. Garlleg Eliffant, Winwns Cymreig) yn creu bylbiau sy’n gallu cael eu hail-blannu, ac mae rhai fel Garlleg Eliffant hefyd yn cynhyrchu bylbiliau.