Cyfryngau cymdeithasol:

Gweithdy tocio i adfer

post thumb
Workshops
by Jake Rayson/ on 14 Jan 2025

Gweithdy tocio i adfer

O gofio’r tywydd, daeth tyrfa sylweddol ynghyd ar gyfer y gweithdy tocio ar ddydd Sadwrn oer. Mae Martin Hayes wedi bod yn dylunio, plannu a thocio perllannau ers blynyddoedd lawer, ac mae galw mawr am ei ddull difyr ac uniongyrchol.

Mae angen rheoli pob gardd, hyd yn oed gerddi coedwig, ac mae tocio’n hanfodol i bron unrhyw goeden ffrwythau ddomestig. Y rheswm yw eu bod wedi eu magu i gynhyrchu ffrwythau ac wedi eu gafftio ar wahanol wreiddgyff (mae gwreiddgyff yn penderfynu uchder ac egni coeden). Os na chánt eu tocio, bydd coed ffrwythau yn raddol yn cynhyrchu llai o ffrwythau, ac mae perygl gwirioneddol i frigau gael niwed oherwydd gormod o ffrwythau.

Cynhaliwyd y gweithdy mewn pedwar man yng Nghilgerran: y berllan yng Ngardd Gobaith, yr Ardd Gymunedol Fruit and Nut, Parc y Pwmp yn y pentref a’r berllan yn y ganolfan bywyd gwyllt. Mae pob un, ar wahán i Fruit and Nut, wedi ei hesgeuluso ers ychydig flynyddoedd, felly roedd y gweithdy yn wir yn fater o docio i adfer.

Satellite photo of village with 4 sites marked in red

Map of the pruning sites in Cilgerran, with the Wildlife Centre up the road

Fel rheol byddwch yn tocio yn y drydedd flwyddyn, os byddwch wedi plannu coeden ifanc, ac yna’n tocio’n ysgafn bob blwyddyn. Ar nifer o’r coed bu’n rhaid i Martin docio’n sylweddol iawn, i achub y goeden a heb orfod gofidio am ffrwytho eleni. Mae hyn yn pwysleisio mai gwaith ar y gweill yw garddio bob amser, ac mae angen i arddwyr profiadol ofalu am goed ffrwythau bob blwyddyn. Mae nifer o’r bobl a oedd yn bresennol yn byw yng nghyffiniau Cilgerran, felly mae gennym dyrfa o bobl frwdfrydig i helpu. Rwyf wedi bod mewn sawl gweithdy, a byddaf yn dal i gymryd nifer o nodiadau gan fod rhywbeth i’w ddysgu bob amser. Ewch i drefnu lle nawr ar weithdy tocio gerllaw! Dyma oedd y prif bwyntiau i fi:

People gathered around a young fruit tree

Removing cardboard from the mulch around the base of a tree

  • Ailgyfeirio llif y sudd yw’r diben i gyd er mwyn newid y goeden
  • Gwnewch dwll plannu dim ond i gymryd maint y gwreiddiau
  • Plannwch ar gyfer y maint terfynol(beth yw maint eich gwreiddgyff)
  • Siáp coeden Nadolig yw’r ffurf symlaf a’r mwyaf cynhychiol, gydag un brigyn arwain i fyny’r canol. 🎄
  • Tociwch unrhyw goeden Prunus (plwms, ceirios, eirin gwlanog, ac ati) ar ól “cwymp mis Mehefin“
  • Tociwch goed afalau a gellyg unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond yn y gaeaf er mwyn cael ffrwythau (lle mae’r blagur) ac yn yr haf er mwyn y pren (y siáp)
  • Cadwch y brigyn canol yn y canol!
  • Mae brigyn ar ffurf coes ci yn atal y sudd ac yn achosi cnwd isel
  • Mae “codwr sudd“ yn annog coeden i dyfu’n syth
  • Meddyliwch bob amser sut bydd y goeden yn ffrwytho
  • Torrwch yn ól at rywbeth, naill ai deilen neu flagur blodyn
  • Meddyliwch 3 blynedd ymlaen wrth docio
  • Byddwch yn agored i newid eich meddwl, clymwch sbrigau ymyl i lawr yn llorweddol, neu gwthiwch nhw i mewn oherwydd caiff ffrwythau eu ffurfio ar ganghennau mwy llorweddol.
  • Peidiwch á gorchuddio’r ddaear á chardfwrdd gan ei fod yn denu llygod bach. Defnyddiwch rywbeth fel sglodion pren, neu’n well fyth blanhigion bythol isel fel na fydd angen torri’r borfa.
Two people with pruning saws looking at wonky fruit tree

Deciding which branches to cut to get an upright shape can take a while when starting out!

Llwyddwyd i docio dim ond ychydig goed ffrwythau ar bob safle, felly mae Martin yn garedig wedi cytuno i ddod yn ól i roi gweithdai ad hoc. Os hoffech gael gwybod, ychwanegwch eich enw at y cylchlythyr: hopegarden.uk/newsletter

People sat around cafe table

All souped up

Cawsom ddiod boeth hyfryd, cawl sbeislyd a bara ffres yn y caffe, ac yna ragor o docio a theisen fendigedig wedi ei gwneud gan Jude a’i darparu gan Callum. Diolch i bawb am ddiwrnod gwirioneddol addysgol a difyr.|

Man pointing at cake on the floor

Tada! Martin likes cake! Thank you Jude and Callum.

Bonus videos

Restorative pruning on horizontal apple tree

Restorative pruning on near horizontal apple tree