Cyfryngau cymdeithasol:

Syniadau disglair ar gyfer yr Ardd Gobaith

post thumb
Education
by Jake Rayson/ on 20 Sep 2024

Syniadau disglair ar gyfer yr Ardd Gobaith

Cafodd Marianne a minnau y fraint o redeg gweithdy dylunio gardd ar gyfer Ysgol Cilgerran ddydd Gwener 20 Medi, gyda’r un grŵp ag a fû yn y gweithdy ID Bywyd Gwyllt. Roedd yna 16 ohonyn nhw o 7 i 11 oed.

Gyda chymorth byrddau hwyliau, gofynnwyd y cwestiwn beth sydd ei angen ar fywyd gwyllt mewn gardd, ac yna beth mae pobl eisiau a pha fwyd ddylem ei dyfu.

Llun o ardd gan blant

Llety gwych pum seren yn yr Ardd Gobaith

Roedd yn wahanol iawn i adael plant yn rhydd mewn cae gyda rhwyd a sbienddrych, ac roedd yn gryn dasg i gadw rhai o’r plant yn brysur ac wrth eu gwaith. Mae gen i barch anferth at athrawon a chynorthwywyr dysgu ar ôl drwy awr wedi ymlâdd.

Yr hyn oedd yn arbennig oedd yr amrywiaeth syniadau a dulliau. Roedd un o’r grwpiau y bûm yn gweithio gyda nhw yn gyffro i gyd gyda gwahanol agweddau (pont dros lyn bywyd gwyllt, cuddfan adar, to gwyrdd, man picnic…) ac roedd y creadigrwydd yn canolbwyntio ar y sgwrs yn hytrach na’r llun. Roedd grwpiau eraill yn gweithio gyda’i gilydd ar luniau lliwgar rhagorol, eraill yn gweithio ar eu pen eu hunain. Bydd y lluniau i’w gweld yn fuan ar dudalen yr oriel.

Llun gan blentyn o ardd gyda gwe enfawr, digonedd o adar, coed uchel ac adeileddau i bawb

Gardd yn llawn coed, bwyd, cynefin a bywyd

Mae dylunio’r ardd yn dechrau o ddifri ym mis Hydref a’r tirweddu i fod ym mis Ionawr (yn ôl y tywydd!!) Bydd syniadau’r plant i gyd yn cael eu hymgorffori mewn rhyw ffordd, a bydd yn bleser mawr cael dangos y nodweddion pan fyddant yn ymweld.

Ar ddiwedd y sesiwn byddwn yn creu rhestr o syniadau. Rwy’n ysu am gael dechrau dylunio!

Bywyd Gwyllt

  • Llyn x2
  • Mur i chwilod
  • Cedowydd
  • Lloches i bryfed
  • Tŷ adar
  • Coetir
  • Pistyll

Pobl

  • Lle picnic x2
  • Cuddfan adar
  • Cwt
  • Cromen – to gwair, muriau pren
  • Caban a thŷ coed
  • Hamog
  • Pistyll

Bwyd

  • Ceirios
  • Afalau x3
  • Mwyar duon
  • Mefus
  • Erin Mair
  • Corn melys
  • Gellyg
  • Mafon