Dyma yw’r dibenion cymeradwy yn eu geiriau eu hunain:
Mae’r dibenion cymeradwy yn rhoi crynodeb o’r prosiect sydd yn eich cais. Rydym wedi defnyddio’r manylion a roesoch inni yn eich cais i greu eich dibenion cymeradwy.
- Cynnig cyfres o weithdai addysgol yn tynnu sylw at addysg, hyfforddiant a mentora ar arfer gorau ar gyfer bioamrywiaeth, garddio, tyfu bwyd a chynefinoedd a rhywogaethau brodorol.
- Cydnabod cyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ym mhob safle ffisegol, ym mhob cyfrwng wedi’i argraffu, gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal ym mhob ffurf.
- Plannu rhywogaethau brodorol o ffynonellau lleol yn unig (pan fydd yn bosibl) ac osgoi mathau an-frodorol, plaladdwyr, gwrteithiau a defnyddiau’n seiliedig ar fawn.
- Darparu data mewn cysylltiad â Phethau Bach (Modest Measures) gan Lywodraeth Cymru lle bydd angen.
- Adeiladu a phlannu gardd gymunedol i fod yn llesol i drigolion lleol a chymunedau cyfagos.
- Bydd gan yr ardd yr agweddau canlynol:
- Man cyfarfod cymunedol ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol ac wedi’u trefnu, yn canolbwyntio ar dreftadaeth naturiol.
- Creu gardd goedwig i fywyd gwyllt ac adfer bywyd gwyllt.
- Rhaglen tyfu bwyd sy’n wydn ac yn lleol.
- Cynnal eich prosiect gwerthuso eich hun a chymryd rhan mewn unrhyw werthusiad o’r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur