01. Democratiaeth
I fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd, mae angen mwy o ymgysylltu, mwy o wrando, a mwy o gydweithio. Mae angen mwy o ddemocratiaeth uniongyrchol, fel Cynulliadau Cymunedol.
- Cynulliad Cymunedol
- Cyd-lunio
02. Bywyd gwyllt
Tyfwch blanhigion cynhenid lle bo modd oherwydd maen nhw wedi esblygu ochr yn ochr â bywyd gwyllt ac maen nhw’n darparu bwyd i infertebratau, sef sylfaen unrhyw ecosystem. Adeiladwch gynefin i fywyd gwyllt yn eich seilwaith chi.
- Rhywogaethau a chilfachau amrywiol
- Adeiladwaith cymhleth ar gyfer cynefin bywyd gwyllt
03. Bwyd cydnerth
Dylai amaethyddiaeth a gerddi fod yn wyrdd. Dylen ni gefnu ar brosesau cynhyrchu bwyd sy’n defnyddio llawer o ynni ac yn cael eu gyrru gan arian ac, yn hytrach, dylen ni droi at systemau bwyd lleol a chynaliadwy sy’n barod at y dyfodol.
- Llysiau lluosflwydd
- Cnydau amaeth-goedwigaeth
Hwyluso democratiaeth uniongyrchol ac adfer natur
Cydweithio â chymunedau
Cymunedau a sefydliadau lleol yw ein partneriaeth ni, ac ry’n ni’n cydweithio i greu nid dim ond gardd gymunedol ond pecyn cymorth i bawb sydd am greu eu gofod eu hunain i hwyluso democratiaeth uniongyrchol ac i adfer natur.
Mae’r gwaith hwn ar y gweill, cofrestrwch i gael ein cylchlythyr ac i glywed am hynt y prosiect.